Canolbwyntiwch ar EICH Busnes – gadewch TG i NI
 

Amdanom ni

Sefydlwyd LANSecure-IT (Vinvit Cyf yn flaenorol, a sefydlwyd yn 2001) er mwyn cynnig gwasanaethau rheolaeth TG dwyieithog i sefydliadau bach a chanolig ar draws Cymru a’r DU. Mae’n cleientiaid yn cynnwys sefydliadau sector gyhoeddus a phreifat, sydd wedi gweld budd o’r gwasanaethau hyblyg wedi eu teilwra yr ydym yn eu darparu.

Lleoliad

Mae’n pencadlys yn Ne Cymru, ond rydym yn darparu’n gwasanaethau ar draws Cymru a’r DU i sefydliadau bach, canolig a mawr. Gan weithio ar safle ac o bell gallwn gwrdd â gofynion ac anghenion eich busnes.

Gwasanaethau

Cynigwn ein holl wasanaethau yn ddwyieithog yn y Saesneg neu’r Gymraeg, gan alluogi eich sefydliad i ddelio gyda TG yn eich iaith ddewisol.

Rheolaeth TG

Gallwn weithredu fel adran TG allanol, gan ddarparu cyngor, cefnogaeth a rheolaeth eich systemau a rhwydweithiau ar sail ad hoc neu gytundeb tymor penodol. Trefnir ymweliadau ar safle i gwrdd â’ch anghenion TG yn ogystal â bod ar alwad ar gyfer unrhyw achosion sy’n codi.

Datblygiad TG

Gallwn ddarparu cyngor, cefnogaeth a gweithredu ar newidiadau meddalwedd a chaledwedd i’ch seilwaith TG bresennol. Os oes angen darn newydd o feddalwedd ar gyfer cwpl o gyfrifiaduron, darn newydd o galedwedd i gefnogi’ch systemau neu newid yng ngosodiadau eich rhwydwaith, mae gennym ni’r profiad i’ch cefnogi a’ch cynorthwyo.

Diogelwch Rhwydwaith ac ar y We

Mae gennym arbenigedd mewn creu rhyngwyneb ar gyfer y we (rhwydwaith gyhoeddus) ac yn fewnol (rhwydwaith breifat). Mae’n atebion yn sicrhau bod eich systemau a’ch data yn cael eu cadw’n ddiogel a chyfrinachol.

Ymgynghori a Chefnogaeth TG Cyffredinol

Mae cael barn allanol bob amser yn ymarfer da a dyna’n union a wnawn ni, gan ddim ond wneud argymhellion sy’n rhoi budd sylweddol a gwerth am arian.

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau

 

Pam dewis LANSecure-IT?

Gwasanaethau TG o Ansawdd
Rydym yn cadw at yr hyn yr ydym yn ei wneud orau – darparu gwasanaethau gwarantedig mewn Rheolaeth TG, Datblygu TG, Diogelwch Rhwydwaith / ar y We a Chymorth TG Cyffredinol – gan eich galluogi CHI i ganolbwyntio ar EICH busnes.

Gwerth am Arian
Mae LANSecure-IT yn darparu arbenigwyr profiadol a chymwysedig am brisiau fforddiadwy.

Cytundebau Hyblyg
Gallwn deilwra ein gwasanaethau i ddarparu cefnogaeth ar safle am nifer penodol o ddyddiau bob wythnos/mis/cyfnod. Gellir cytundebu ar sail ad hoc neu dymor penodol. Penderfynwch CHI beth sydd orau i’ch sefydliad.

Cefnogaeth Gynhwysfawr
Gallwch ddibynnu arnom i ddatrys problemau 100% o’r amser hyd yn oed os nad oes ein hangen ddim ond am un diwrnod y chwarter. Trwy ddefnyddio technoleg o bell, rydym ar gael ar alwad bob amser, ac wrth gwrs, rydym ar safle cyn pen dim pan fo angen.

 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

“Mae safon gwaith LANSecure-IT o’r radd flaenaf. Mae eu cynllunio, sydd mor drylwyr, cyn gweithredu Prosiectau cymleth yn golygu ein bod bob amser gyda ffydd yn y canlyniadau.”

Gomer Electrical Ltd

“Roedd gennym ein hamheuon ac roeddem yn meddwl nad oedd yn bosib. Ond rheolwyd yr allfudo yn ddiymdrech gan LANSecure-IT. Gwnaethant argraff fawr!”

Keith Hill – Cyfarwyddwr

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

“Mae’r strwythur newydd Technoleg Gwybodaeth sydd yn ei le yn ein lleoliad newydd wedi golygu ein bod yn gallu cydweithio a rhannu gwybodaeth fel erioed o’r blaen. Mae ein cydweithwyr allanol yn gallu cysylltu o unrhywle a chael at ffeiliau ac ebostiau mor rhwydd. Prosiect hynod o lwyddiannus.”

Ann Williams - Ysgrifynyddes

Carpet Services (Cardiff) Ltd

"Mae’r cyswllt hwn wedi arbed amser ac arian sylweddol i ni. Ar yr un pryd mae eu cymorth parhaol yn ardderchog. Fe’i argymhellir."



LANSecure-IT supports
'Red Shoes' in Kenya