Tystebau
Beth yw barn ein cwsmeriaid am y gwasanaethau a gynigir gan LANSecure-IT?
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
www.bwrdd-yr-iaith.org.uk
Gweithredwyd strwythur DFSR mesh-llawn ar rwydwaith eang o 3 lleoliad. Drwy hyn yn galluogi’r defnydd effeithiol o’r data yn lleol gan gadw integredd a chynyddu argaeledd.
“Mae safon gwaith LANSecure-IT o’r radd flaenaf. Mae eu cynllunio, sydd mor drylwyr, cyn gweithredu Prosiectau cymleth yn golygu ein bod bob amser gyda ffydd yn y canlyniadau.”
Gomer Electrical Ltd
www.gomer-electrical.co.uk
Fe berfformiwyd migreiddio meddalwedd SBS2003R2 i galedwedd newydd, yn cynnwys data a sustem ebost Exchange, a'i gwblhau o fewn noson.
“Roedd gennym ein hamheuon ac roeddem yn meddwl nad oedd yn bosib. Ond rheolwyd yr allfudo yn ddiymdrech gan LANSecure-IT. Gwnaethant argraff fawr!”
Keith Hill – Cyfarwyddwr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
www.annibynwyr.org
Gweithredwyd strwythur Rhwydwaith TG hollol newydd ar safle newydd. Gwneud hyn gan finimeiddio’r effaith ar waith dyddiol ond gan reoli newidiadau sylweddol i wella cynhyrchedd.
“Mae’r strwythur newydd Technoleg Gwybodaeth sydd yn ei le yn ein lleoliad newydd wedi golygu ein bod yn gallu cydweithio a rhannu gwybodaeth fel erioed o’r blaen. Mae ein cydweithwyr allanol yn gallu cysylltu o unrhywle a chael at ffeiliau ac ebostiau mor rhwydd. Prosiect hynod o lwyddiannus.”
Ann Williams - Ysgrifynyddes
Carpet Services (Cardiff) Ltd
www.carpet-services.com
Gweithredwyd linc VPN dibyniadol rhwng ein Canolfan a'n Gweithdy a oedd yn galluogi rhannu dogfennau amser-gritigol yn hawdd.
"Mae’r cyswllt hwn wedi arbed amser ac arian sylweddol i ni. Ar yr un pryd mae eu cymorth parhaol yn ardderchog. Fe’i argymhellir."
|